8 Hydref 2015
Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad: cais am wybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 24 Medi
Annwyl Weinidog
Diolch am ddod i'r sesiwn dystiolaeth ar 24 Medi 2015.
Yn ystod y cyfarfod, mynegodd y Pwyllgor siom ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed o ran gweithredu ein hargymhellion ar y system addasu cartrefi yng Nghymru a chytunoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu system genedlaethol ar gyfer addasu. Hefyd, cytunoch i wneud y canlynol:
· ysgrifennu at y Pwyllgor erbyn mis Mawrth 2016 yn rhoi gwybodaeth am ganlyniad gwaith y grŵp tasglu yn ystyried:
- sut i wella perfformiad gwasanaethau addasu cartrefi;
- sut i sicrhau gwerthusiad a monitro perfformiad effeithiol ar gyfer pob gwasanaeth addasu, nid dim ond Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
· gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol rannu unrhyw waith cynllunio a wnaed ar hyfywedd tir y comisiwn coedwigaeth mewn perthynas â datblygu tai gyda'r Pwyllgor.
· darparu gwybodaeth am faint o dir a ryddhawyd ar gyfer tai yn y ddwy flynedd diwethaf, a faint sy'n debygol o gael ei ryddhau yn y ddwy flynedd nesaf.
Hefyd, roedd rhai materion na chawsom gyfle i'w trafod gyda chi yn ystod y sesiwn, a byddwn yn ddiolchgar os gallwch roi gwybodaeth amdanynt —
· A yw cychwyn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn debygol o fynd yn ei flaen yn ôl y bwriad ym mis Hydref;
· Y diweddaraf am ddatblygu'r Cod Ymarfer a fydd yn cael ei gyhoeddi o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014;
· A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y diffiniad o hyglwyf yn Adran 71 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys;
· A yw awdurdodau lleol yn glir ynghylch sut y dylent fod yn cymhwyso'r gyfraith yn y maes hwn, yn dilyn y dyfarniad, ac a ddylai canllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyglwyf fod yn fwy eglur;
· Sut caiff y Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel ei fonitro;
· Sut mae cronfa ddata e-PIMS yn cael ei defnyddio i hwyluso adeiladu tai fforddiadwy, faint o dir sydd ar gael ar gyfer tai fforddiadwy o ganlyniad uniongyrchol i'r gronfa ddata e-PIMS a pha dargedau blynyddol sydd wedi cael eu gosod ar gyfer rhyddhau tir yn y dyfodol o e-PIMS at y diben o ddarparu tai fforddiadwy.
Edrychaf ymlaen at eich ymateb.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd